Ein Ariannwyr
Cyngor Ffilm y DG yw prif asiantaeth ffilm Prydain, ac mae'n gyfrifol am sicrhau cynrychiolaeth effeithiol, ym Mhrydain ac yn rhyngwladol, i holl agweddau economaidd, diwylliannol ac addysgol byd ffilm ym Mhrydain. Mae'r Cyngor yn gyfrifol am fuddsoddi arian grant-cymorth ac arian loteri mewn datblygu ffilm, cynhyrchu, datblygiad rhyngwladol, hyrwyddo allforion, dosbarthu, arddangos ac addysg. www.ukfilmcouncil.org.uk
Skillset yw'r Cyngor Sgiliau ar gyfer y Sector Clyweledol, sydd yn cynnwys
darlledu, ffilm, fideo, y cyfryngau rhyngweithiol a ffotograffiaeth. Mae
Cynghorau Sgiliau yn sefydliadau Prydeinig annibynnol sydd wedi cael eu
datblygu gan grwpiau o gyflogwyr dylanwadol mewn sectorau sydd yn economaidd
neu yn strategol bwysig. skillset.org
www.skillset.org
Mae'r Academi hefyd yn derbyn nawdd gan Gronfa Cyflunio a Chydweithredu
Cyngor Ariannu Addysg Uwch Cymru. hefcw.ac.uk
www.hefcw.ac.uk



