Gwobrau a chyn fyfyrwyr
Dros y ddau ddegawd diwethaf mae nifer o wneuthurwyr ffilm nodedig wedi graddio o Ysgol Ffilm Ryngwladol Cymru, gan gynnwys Justin Kerrigan, enillydd gwobrau niferus a chyfarwyddwr y ffilm Human Traffic. Yn fwy diweddar, enillodd Asif Kapadia ddwy wobr BAFTA am ei ffilm nodwedd gyntaf The Warrior.
Mae graddedigion eraill wedi cael eu henwebu am wobrau am eu gweithiau
ffilm ac animeiddio mewn nifer o wyliau ffilm rhyngwladol – gan gynnwys
yr Ŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd, Thessaloniky, Norwich a Gŵyl Ffilm Cannes. Ymhlith graddedigion
llwyddiannus eraill yr ysgol mae John Williams, a aeth yn ei flaen i gyfarwyddo
fideos cerddorol i fandiau fel Coldplay o ganlyniad i'w waith animeiddio.
Mae graddedigion Coleg Celf a Thechnoleg Dylunio Morgannwg wedi mynd ymlaen i weithio i gwmniau cynhyrchu fel Sony Pictures Imageworks (USA) - Marco Merenghi, Max Tyrie and Stephen Enticott, Warner Brothers - Tim Allen a weithiodd ar Corpse Bride, Rare Computer Games - Katherine Sellar ac Aardman Animation as a Production Designer.
Derbyniodd myfyrwyr yn Athrofa Addysg Uwch Abertawe wobrau 'myfyriwr y
flwyddyn' ac mae Grant Walker, a enillodd y wobr yn 2005 bellach yn gweithio
gyda chwmni The Mill yn Llundain – cwmni sydd wedi ennill Oscar am
eu gwaith ac sydd yn enwog ledled y byd am waith graffeg ar ffilmiau fel Gladiator ac ar hysbysebion/fideos i The White Stripes, Kaiser
Chiefs, Kanye West, Sony, Audi a Honda (Impossible Dream).
Ysgoloraethau
Yn ddiweddar, derbyniodd Toharia Teran ysgoloriaeth Fulbright i ddilyn cwrs astudiaethau creadigol yn y L. Jeffrey Selznick School of Film Preservation, yn George Eastman House, Efrog Newydd. Fe wnaeth Toharia gais am yr ysgoloriaeth yn ystod ei chyfnod fel myfyriwr ar gwrs MA Ffilm yr Ysgol Ffilm yng Nghasnewydd.
Yn ddiweddar, enillodd myfyrwyr yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru un o bedair Gwobr Radio BBC Carleton Hobbs (Bethan Walker) a Gwobr Laurence Olivier (Daniel McLeod).



