Skillset Screen Academy Wales


Skillset Screen Academy Wales


Skillset Screen Academy Wales

E-ddysgu yn yr Academi Sgrin

Cafodd yr MA mewn Cynhyrchu Ffilm a Rheoli Busnes ei ddatblygu fel y gellir dilyn y cwrs o fis Hydref 2007.

Wedi'i ddatblygu gan bobl broffesiynol y diwydiant, mae'r MA mewn Cynhyrchu Ffilm a Rheoli Busnes yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr gyfuno gwybodaeth ymarferol am y busnes o wneud ffilmiau gydag elfen greadigol, a fydd yn hwb sylweddol i'w gobeithion o wneud eu marc ar fyd cystadleuol y diwydiant ffilm rhyngwladol.

Dyma'r unig gwrs MA mewn Cynhyrchu Ffilm a Rheoli Busnes sydd ar gael ym Mhrydain. Datblygwyd y cwrs gan Academi Sgrin Cymru Skillset ac fe'i hanelir at fyfyrwyr a chanddyn nhw gefndir yn y cyfryngau, yn y gyfraith neu mewn busnes, ac a hoffai ddatblygu gyrfa ym maes cynhyrchu ffilm. Mae'r cwrs yn ddigon hyblyg i alluogi i'r myfyriwr astudio yn unol â'i amgylchiadau ei hun ac fe ellir astudio modiwlau unigol neu gyfuno modiwlau er mwyn ennill cymhwyster PGDip / PGCert gyda strwythyr newydd o ddysgu ar unrhyw gymysgedd o 100% wyneb yn wyneb i 100% arlein ar gael.

I lawrlwytho ein taflen wybodaeth dwyieithog cliciwch yma:

PDF Pamffled Cwrs Arlein

Bwrsari E-ddysgu

Mae un bwrsari ar gael a fydd yn talu ffioedd dysgu ar gyfer y cwrs MA newydd mewn Cynhyrchu Ffilm a Rheoli Busnes (ar-lein) - ac fe gaiff y bwrsari ei gynnig i fyfyriwr sydd, oherwydd amgylchiadau personol, yn methu â dilyn y cwrs wyneb-yn-wyneb.