Bwrsariau Gwyliau
Mynychu gwyliau
Mae'r Academi hefyd yn annog myfyrwyr a staff i fynychu gwyliau ffilm a
chynadleddau Prydeinig a rhyngwladol. Mae'r Academi yn cynnig bwrsarïau
mynychu fel y gall myfyrwyr deithio i ddigwyddiadau o bwys yn eu meysydd
penodol nhw ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.
Yn 2006, dewiswyd myfyrwyr o'r Academi Sgrin i fynychu Gŵyl Ffilm Cannes
yn rhan o gynllun cyd-gynhyrchu CYFLE. Mae'r Cynllun yn becyn hyfforddiant
unigryw sydd yn cynorthwyo aelodau o dîm cynhyrchu wrth iddyn nhw
ymwneud â'r broses o gyd-gynhyrchu ac yn eu cynorthwyo nhw i ddatblygu'r
sgiliau sydd yn angenrheidiol ar gyfer delio â'r farchnad ryngwladol.
Mae'r pecyn yn cynnwys ymgynghori ffurfiol a mentora gan berson proffesiynol
profiadol cyn, yn ystod ac ar ôl y farchnad ffilm, yn ogystal â
chyngor ar gyflwyno ffilmiau mewn ffordd fachog, marchnadoedd a phartneriaid
posib, a sut i ddatblygu wedyn gysylltiadau a pherthnasau gaiff eu gwneud
yn ystod yr ŵyl. Fe fydd y cynllun yma'n cael ei drefnu yn 2007 hefyd
ac fe fydd yn talu'r holl gostau teithio a llety sydd yn gysylltiedig â
mynychu'r ŵyl.
Hefyd yn 2006, mynychodd myfyrwyr o'r Academi Sgrin Ŵyl Ffilm Ryngwladol Annecy er mwyn ymchwilio tueddiadau mewn cynhyrchu gweithiau animeiddio ac i rwydweithio â gwneuthurwyr ffilm rhyngwladol.
Fel rhan o gynlluniau cyhoeddusrwydd ac estyn-allan yr Academi, mae'r Academi'n cefnogi nifer o wyliau ffilm uchel eu proffil ym Mhrydain, gan gynnwys Brief Encounters (Bryste), Gŵyl Ffilm Caerdydd, Ffresh – Gŵyl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru a SAND ('Swansea Animation Days'). Mae'r Academi yn gwneud defnydd o'r llwyfannau hyn i hyrwyddo gwaith y myfyrwyr yn ogystal ag i ddatblygu rhwydwaith o gefnogwyr i weithgareddau niferus yr Academi. Mae'r Academi hefyd yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio i'r diwydiant ac i'r rheiny yn ein sefydliadau partner sydd yn darparu cyrsiau. Cynhelir hefyd ddangosiadau gala o waith myfyrwyr ar ddiwedd y flwyddyn academaidd yn amrywiol sefydliadau'r Academi.



