Skillset Screen Academy Wales


Skillset Screen Academy Wales


Skillset Screen Academy Wales

Y diweddara...
Dosbarthiadau meistr y diwydiant am ddim ac ar agor i bawb yma
Yn galw myfyrwyr - cofrestrwch efo'r cynllun lleoliadau yma

Mae Academi Sgrin Cymru Skillset yn ganolfan newydd sydd yn canolbwyntio ar hyfforddiant ac addysg lefel uchel ar gyfer y diwydiant ffilm. Mae'n darparu cyrsiau israddedig ac ôl-radd mewn wyth maes llafur allweddol. Rydym yn aelod o Rhwydwaith Academiau Sgrin Skillset™.

Mae'r cyrsiau hyn yn cynnig rhaglenni addysg blaengar sydd wedi'u strwythuro yn ôl anghenion diwydiant ffilm Prydain, ac mae yna lwybr clir o'r cyrsiau hyn i fyd gwaith yn y sector.

Mae'r Academi yn bartneriaeth rhwng dwy o brif ganolfannau addysg ffilm Cymru, ac mae'n dod â chanolfannau allweddol eraill ynghyd i ddarparu rhaglen heb ei hail o hyfforddiant galwedigaethol ac addysg. Mae'r Academi Sgrin yn cyfrannu i ddatblygiad diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd sector ffilm Prydain ac yn ceisio sicrhau y bydd y diwydiant yn gallu cystadlu'n well ar raddfa fyd-eang trwy gynnig cyrsiau galwedigaethol a chyrsiau gradd a fydd yn denu amrywiaeth eang o fyfyrwyr.

Mae'r Academi yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn ymwneud yn agos â realiti'r diwydiant ffilm trwy gynnwys yn y modiwlau craidd wybodaeth angenrheidiol am y modd y mae'r diwydiant yn gweithio ac fe ategir hyn gan amrywiaeth o gyfleoedd i gael profiad ymarferol, gwasanaeth mentora a chynllun datblygiad proffesiynol. Gan fanteisio ar arbenigedd ym maes addysgu ar-lein, mae'r Academi yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i wneud yn siŵr bod y myfyrwyr yn cael datblygu eu sgiliau i'r eithaf. Mae'r Academi hefyd yn rhoi cymorth i fyfyrwyr gymryd eu camau cyntaf yn y diwydiant trwy drefnu profiad gwaith a phrofiad ymarferol. Mae hybu diwylliant o amrywiaeth ddiwylliannol hefyd wrth galon gweithgarwch yr Academi, ac mae nifer o grantiau a gweithgareddau 'estyn allan' yn ategu'r egwyddor yma.

Yn ystod dwy flynedd cyntaf y prosiect (2005-2007) fe fydd Academi Sgrin Cymru Skillset yn buddsoddi £1.3 miliwn mewn mentrau hyfforddiant ffilm, cynlluniau mentora i fyfyrwyr, cyfleoedd ymarferol, adnoddau dysgu blaengar ac ysgol haf. Caiff grantiau sylweddol eu cynnig i annog pobl o gefndiroedd amrywiol i astudio yn sefydliadau'r Academi, i fynychu gwyliau ffilm ac i gynhyrchu gweithiau enghreifftiol o safon uchel.

I gael eich rhoi ar ein rhestr bostio cysylltwch a ni yma.

I lawrlwytho ein pamffled wybodaeth newydd cliciwch isod:

PDF Pamffled Cymraeg