Skillset Screen Academy Wales


Skillset Screen Academy Wales


Skillset Screen Academy Wales

Dosbathiadau Meistr

Page 1 - Trosolwg
Page 2 - Rhaglen

Mae sicrhau bod myfyrwyr yn gallu mwynhau a pharhau i fanteisio ar gysylltiadau agos a gwerthfawr ag aelodau o'r diwydiant ffilm yn hollbwysig er mwyn sicrhau eu bod yn datblygu'r arferion gwaith gorau, ac yn cael profiad ymarferol o gynhyrchu a bod ar set ffilm. Fe fydd cyngor cyffredinol gan bobl sydd wedi treulio blynyddoedd ym myd ffilm yn ysbrydoli ac yn arwain myfyrwyr ar gyrsiau'r Academi Sgrin, a hynny trwy gyfrwng cyfresi o ddosbarthiadau meistr, mentora a chyfnodau preswyl.

Dosbarthiadau meistr

Trwy fanteisio ar restr Skillset o 100 o bobl broffesiynol y diwydiant, trefnir seminarau a dosbarthiadau meistr i gydredeg â chyrsiau'r Academi Sgrin. Mae dosbarthiadau meistr fel arfer yn galluogi i nifer helaeth o ddisgyblion ac aelodau o'r cyhoedd fanteisio ar y sesiwn yng nghwmni'r arbenigwr, ac yna fe ellir cynnal gweithdy mwy penodol gyda'r myfyrwyr. Yn y gorffennol, cafwyd dosbarthiadau meistr gan Mike Leigh, Bill Plympton, Michael Dudok De Witt a Justin Kerrigan, ynghyd â sawl un arall.

Page 1  / Page 2