Straeon newyddion safle we Academi Sgrin Cymru

5 Hydref 2006 -

Panel yr Academi Sgrin yn unigryw o fewn y Rhwydwaith Brydeinig

Cyhoeddodd Academi Sgrin Cymru Skillset heddiw bod panel unigryw i bontio rhwng sefydliadau academaidd yr Academi a phobl broffesiynol y diwydiant ffilm ehangach yng Nghymru a Phrydain wedi'i sefydlu.

Dan arweiniad y Cadeirydd, Bryn Roberts, rheolwr-gyfarwyddwr y cwmni ôl-gynhyrchu mwyaf y tu allan i Lundain, Barcud Derwen, fe fydd Panel Ymgynghorol yr Academi Sgrin yn gweithio ochr-yn-ochr â rheolwyr cyrsiau a bwrdd rheoli'r Academi er mwyn sicrhau cefnogaeth a chymorth addas ar faterion yn ymwneud â datblygu'r cwricwlwm.

Fe fydd Panel y Diwydiant (gellir gweld yr aelodau fan hyn) yn rhoi arweiniad ar ddatblygu cyrsiau ar gyfer cwricwlwm newydd yr Academi Sgrin, a fydd ar-lein yn ystod mis Hydref 2007. Bydd y panel hefyd yn gwneud sylwadau ar y ddarpariaeth hyfforddi bresennol. Dewiswyd aelodau'r panel yn seiliedig ar eu harbenigeddau o fewn y diwydiant.

"Mae'r Panel yma wedi cael ei sefydlu fel prosiect ar y cyd rhwng Bwrdd Rheoli Academi Sgrin Cymru Skillset a Phanel Sgiliau Skillset Cymru," meddai Bryn Roberts.

"Tasg y Panel fydd rhoi arweiniad ar gyfer datblygu addysg a hyfforddiant ffilm ar y cyrsiau hynny sydd yn rhan o gonsortiwm Academi Sgrin Cymru Skillset - consortiwm sydd yn cael ei arwain gan Ysgol Ffilm Ryngwladol Cymru (Prifysgol Cymru Casnewydd) a'r Academi Ffilm (Prifysgol Morgannwg)."

Mae Panel Ymgynghori'r Diwydiant yn cydnabod amcanion triphlyg prosiect Academi Sgrin Cymru, sef darparu gweithlu sydd yn meddu ar y sgiliau a'r arbenigeddau angenrheidiol ar gyfer diwydiant ffilm Prydeinig trwy gyfrwng cyrsiau addysg a hyfforddiant penodol ar lefel Addysg Bellach ac Addysg Uwch; i hybu amrywiaeth diwylliannol o fewn y diwydiant ffilm Prydeinig ac i greu cysylltiadau agosach rhwng addysg ffilm a darparwyr hyfforddiant, myfyrwyr a graddedigion a'r diwydiant ffilm.

Y disgwyl yw y caiff aelodau eraill eu gwahodd i ymuno â'r panel wrth i waith yr Academi fynd yn ei flaen.


close window