Straeon newyddion safle we Academi Sgrin Cymru
28 Medi 2006 -
Technoleg newydd ar gael nawr i fyfyrwyr yr Academi Sgrin
Mae Academi Sgrin Cymru wedi buddsoddi Ł200,000 a dderbyniwyd mewn grant gan Gyngor Ariannu Addysg Uwch Cymru ar y dechnoleg ddiweddaraf, at ddefnydd myfyrwyr sydd yn cwblhau prosiectau ac at ddefnydd gwahanol gynlluniau ffilm a gefnogir gan yr Academi. Cafodd y cit 'motion capture' VICON, dau gamera Super 16 a chamerâu HD Panasonic eu prynu dros fisoedd yr haf yn barod i gael eu defnyddio ar ddechrau'r tymor newydd, wrth i fyfyrwyr gyrraedd i ddechrau a pharhau â'u cyrsiau yn sefydliadau partner yr Academi Sgrin.
"Trwy gyfrwng buddsoddiad sylweddol gan Gyngor Ariannu Addysg Uwch Cymru mae Academi Sgrin Cymru wedi buddsoddi mewn offer technegol newydd a fydd yn galluogi i fyfyrwyr fod ar flaen y gad a sicrhau eu bod yn cael amrywiaeth eang o brofiadau ymarferol wrth iddyn nhw ddilyn eu cyrsiau," meddai cyd-gyfarwyddwr yr Academi, Humphry Trevelyan.
Mae'r dechnoleg newydd yn diweddaru'r stôr o offer technegol sydd ar gael i fyfyrwyr, sydd eisoes yn cynnwys cyflenwad o gamerâu DV Cam a Mini DV. Fe fydd myfyrwyr hefyd yn cael profiad o weithio gyda ffilm 35mm yn ystod y flwyddyn. Mae ystafell olygu'r Academi'n cynnwys Avid a Final Cut Pro, DV Express Pro, Media Composer, offer recordio a chymysgu sain safonol a suite Pro Tools. Mae pecynnau cynhyrchu ac ysgrifennu fel Moviemagic a Final Draft hefyd ar gael.
Mae gan Academi Sgrin Cymru hefyd ofod ymarfer a'r cyfleusterau i gynnig set ffilmio yn y gofod stiwdio, ac mae'r gofod hwn yn cynnwys setiau ac offer goleuo cynhwysfawr.
Trwy gyfrwng cefnogaeth a chymorth gan staff technegol y gwahanol gampysau fe fydd myfyrwyr yn cael eu hyfforddi yn y defnydd o'r dechnoleg newydd yma ac fe fyddan nhw'n gallu defnyddio'r offer i greu eu prosiectau terfynol.