Straeon newyddion safle we Academi Sgrin Cymru

23 Gorffennaf 2006 -

Staff newydd yn ymuno ag Academi Sgrin Cymru

Fe fydd Academi Sgrin Cymru Skillset yn cael ei arwain gan dîm craidd newydd yn cynnwys pedwar aelod o staff sydd wedi dod at ei gilydd dros fisoedd yr haf i baratoi ar gyfer y tymor newydd ac ail flwyddyn cytundeb yr Academi gyda Skillset a Chyngor Ariannu Addysg Uwch Cymru. Mae'r tîm newydd yn ymuno â Clive Myer a Humphry Trevelyan i drefnu'r prosiect sydd yn tynnu at ei gilydd 6 sefydliad addysg uwch ac addysg bellach yn Ne Cymru a'r sefydliad hyfforddi CYFLE.

Fe arweinir y tîm, sydd wedi'i leoli yng nghanolfannau'r prif sefydliadau - Prifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg - gan y Rheolwr Prosiect, Hannah Raybould. Ymunodd Hannah â'r Academi Sgrin ar ôl cyfnod yn gweithio fel Rheolwr Marchnata Sgrin - Asiantaeth Cyfryngau Cymru. Yn ystod ei chyfnod gyda Sgrin, bu Hannah'n gyfrifol am gydlynu'r ?yl Ffilm a Theledu Geltaidd hynod lwyddiannus a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn 2005 ac roedd hi hefyd yn gyfrifol am farchnata G?yl Sgrin Caerdydd, Ffresh (G?yl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru) a gwaith yr Asiantaeth yn gyffredinol. Cyn ymuno â Sgrin yn 2000 dilynodd Hannah gwrs MA mewn Theatr, Ffilm a Theledu yn Aberystwyth ac fe weithiodd fel swyddog lleoliadau yng Nghanolbarth Cymru i Gomisiwn Sgrin Cymru.

Ym mis Gorffennaf penodwyd dau Gydlynydd Prosiect i ymuno â Hannah, sef Natalie Hughes a Rhiannon Jarvie. Fe fydd Natalie'n gyfrifol am roi cyngor yngl?n â cheisiadau grant, hyrwyddo'r adnoddau e-ddysgu newydd, mapio arolwg o gwmnïau cynhyrchu Cymru a threfnu i staff a myfyrwyr fynychu cynadleddau rhyngwladol. Fe fydd Rhiannon yn cydlynu rhaglen lawn o gefnogaeth a chymorth i'r Academi o du'r diwydiant proffesiynol, yn ddosbarthiadau meistr, gwasanaethau mentora a rhaglen breswyl. Fe fydd hi hefyd yn cydlynu Gwaith Panel Ymgynghori'r Diwydiant. Yn ogystal â hyn, fe fydd Rhiannon, sydd hefyd yn ffotograffydd, yn catalogio gwaith myfyrwyr a phartneriaid Academi Sgrin Cymru.

Mae Natalie yn ymuno â'r Academi o ELWa, lle roedd hi'n gydlynydd ar y Cynllun Sgiliau a Dysgu, a hynny'n dilyn blwyddyn o weithio fel athrawes yng Ngholombia. Mae Rhiannon wedi dychwelyd i Dde Cymru o Lundain, lle bu hi'n gweithio i Gadeirydd cwmni cynhyrchu Tiger Aspect.

Pedwerydd aelod y tîm yw Nadine Roberts, sydd ar secondiad o'r sefydliad hyfforddi, CYFLE. Fe fydd Nadine yn gyfrifol am gydlynu profiad gwaith a phrofiad proffesiynol i fyfyrwyr yr Academi. Mae Nadine wedi bod yn gweithio'n agos â Go Wales! ac ITV Cymru dros fisoedd yr haf i drefnu cynlluniau gwaith i fyfyrwyr presennol a myfyrwyr graddedig. Mae'r cynlluniau hyn wedi bod yn fodd i fyfyrwyr ar gyrsiau dylunio setiau, perfformiad a ffilm gael profiad o weithio ochr-yn-ochr â Phenaethiaid Adran profiadol ar ffilmiau byrion a ffilmiau nodwedd - ac fe fydd llawer o'r gweithiau hyn yn cael eu dangos yn ystod misoedd yr hydref ar ITV Cymru ac yng Ng?yl Ffilm Caerdydd.

I gysylltu â staff Academi Sgrin Cymru, cliciwch fan hyn.


close window