Straeon newyddion safle we Academi Sgrin Cymru

22 Tachwedd 2006 -

Pobl Ifanc o Gymoedd De Cymru yn gael y Cyfle i ddangos eu Gwaith i ’r Byd ar y Sgrin Fawr 

Mae pobl ifanc sy’n byw mewn rhai o ardaloedd tlotaf Cymru yn mynd i gael y cyfle i greu ffilmiau a fydd yn cael eu dangos ar y sgrin fawr yn ystod Gŵyl Ffilm Rhyngwladol Cymru i Blant a Phobl Ifanc 2007.   

Mae’r elusen newydd sy’n trefnu’r cynllun unigryw yma, Zoom, yn cael ei ariannu gan Coalfields Regeneration Trust a’r Cyngor Celfyddydau Cymru, ac maent wrthi ar hyn o bryd yn cynnal cyfres o weithdai ymarferol lle mae pobl oedran 8-18 yn dysgu sut i ysgrifennu, saethu, golygu ac actio mewn ffilmiau eu hunain a fydd yn cael eu dangos i gynulleidfaoedd mewn pedwar lleoliad wahanol ar draws y Cymoedd o ddydd Iau 22ain hyd at ddydd Sul 25ed o Fawrth 2007.

Y cyntaf o’i fath yng Nghymru, bydd yr Ŵyl yn rhoi’r cyfle i bobl Cymru i fwynhau ffilmiau o bedwar ban y byd sydd wedi cael eu gwneud gan, ac i, blant a phobl ifanc. Mi fydd hefyd yn gyfle arbennig i dalent ifanc Cymru i ddangos eu gwaith i bobl pwysig y diwydiant ledled y byd.    

Cred Zoom yw bydd hwn yn rhoi’r cyfle sydd angen i genedlaethau’r dyfodol o fewn rhai o ardaloedd tlotaf Ewrop i ddysgu sgiliau newydd sydd angen er mwyn dechrau gweithio o fewn y byd cystadleuol ffilm a chyfryngau.  

Dywed Cyfarwyddwr Zoom, Lisa Davies, “Gyda’r diwydiant ffilm a theledu yn tyfu yng Nghymru ar hyn o bryd, a’r ffaith bod Dragon International Studios yn mynd i agor cyn bo’ hir, ni’n gobeithio creu gweithlu lleol na fydd yn cael ei anwybyddu. Mae’n holl bwysig i ysbryd gymdeithas bod pobl lleol yn gael y cyfle i chwarae rol gweithredol tra’n adfywio eu trefi….eu bod nhw’n teimlo, fel pobl sy’n byw yn y Cymoedd, mai nhw bydd yn elwa o’r cynlluniau mawr yma, nid dim ond ariannwyr cyfoethog o Loegr sy’n gweld Cymru fel lleoliad rhad.”
 
Mae Zoom hefyd yn gobeithio bydd y cynllun yn rhoi gobaith i’r nifer o bobl ifanc tlawd sy’n byw yn y Cymoedd heddiw. Mae Rebecca Lee, sy’n fam i dri o blant ac yn byw yn Nelson, yn croesawu’r prosiect. “Rwy’n gweld e’ fel cyfle gwych i’r plant i fynegi eu hunain mewn ffordd creadigol…ma’ ‘na gymaint o bobl ifanc yn y Cymoedd allan o waith, yn gwneud cyffuriau, heb unrhyw obaith ynglyn a’r dyfoldol….bydd hwn yn rhoi rhywbeth iddyn nhw fod yn falch amdano…Bydd e’ hefyd yn rhoi cyfle i’r rhai bydde byth fel arfer yn cael y cyfle i weithio o fewn y cyfryngau ac mi fydd e’n ffordd dda i blant o’r Cymoedd i ddangos y byd faint o dalent sy’ ganddyn nhw.”   

I’r rheini sydd a diddordeb mewn dangos ffilm byr yn ystod yr Ŵyl Ffilm Rhyngwladol Cymru i Blant a Phobl Ifanc cei ffurflenni a gwybodaeth pellach ar y wefan www.zoomcymru.com neu www.myspace.com/zoomcymru. Dylid hanfon ffilmiau i Zoom, Uned 12, 126 Stryd Bute, Caerdydd, CF10 5LE.

Gofynnir bod pob ffilm wedi cael ei gwneud o fewn y ddwy flynedd diwethaf gan bobl ifanc (8-18) ac iddynt cael eu danfon fesul ffurf DVD cyn y 31ain o Ragfyr 2006. I bobl sydd eisiau danfon ffilmiau rhyngwladol dylent cysylltu a Sian Harries gan e-bostio sian@zoomcymru.com neu gan ffonio 02920 461 166.  

 


close window