Straeon newyddion safle we Academi Sgrin Cymru

 

05 Ionawr 2007 -

Galwad am Enwebiadau!

Mae BAFTA Cymru nawr yn derbyn enwebiadau ar gyfer y Seremoni Wobrwyo Ffilm, Teledu a Chyfryngau Newydd fydd yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, 28 Ebrill 2007 yn y Cardiff International Arena.

Dyddiadau cau:

Dydd Gwener, 19 Ionawr, 2007
Categoriau Rhaglenni, Crefft a Pherfformiad (*ag eithro’r isod)

Dydd Gwener 9 Chwefror 2007
Fe fydd y categoriau canlynol yn cael eu beirniadu gan reithgorau arbennig wedi eu dewis gan Bwyllgor Rheoli BAFTA Cymru.  Ni fydd rhain yn ymddangos yn y papurau pleidleisio.

Y Rhaglen Blant Orau (*Dydd Gwener, 19 Ionawr, 2007)
Y Graffeg / Teitlau Gorau
Y Cyfryngau Newydd Gorau
Y Ffilm Fer Orau

Yr Animeiddio Gorau
Y Newydd Ddyfodiad Gorau


Rhaid i bob rhaglen/ffilm ddangos cyfraniad Cymraeg sylweddol yn y mannau canlynol:  Cwmni Cynhyrchu, Cyllid, Cyfarwyddwr, Cynhyrchydd, Awdur, prif gast a chriw. Croesawir cynhyrchiadau Cymraeg a Saesneg ym mhob genre.  Rhaid i’r enwebiad for wedi cael ei ddarlledu/dangos rhwng 1af Ionawr - 31 Rhagfyr 2006.  Rhaid anfon DVD gyda phob enwebiad.

Ffurlenni enwebu a chanllawiau ar gael o swyddfa BAFTA Cymru :

Post ffoniwch 02920 223898
e-bost lisa@bafta-cymru.org.uk
we www.bafta-cymru.org.uk

Yn dilyn y rheithgorau, fe fydd Rhestr Fer o’r Enwebiadau yn cael ei chyhoeddi yn gynnar ym mis Ebrill 2007.  Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod y Seremoni Wobrwyo a byddant yn cael eu cyflwyno gyda mask BAFTA Cymru, wedi ei greu gan Toby Petersen ar sail cynllun gan y cerflunydd American, Mitzi Cunliffe.


close window