Straeon newyddion safle we Academi Sgrin Cymru
03 Ionawr 2007 -
Ffilm animeiddio o Gymru yn un o bedwar yn unig i gael ei dewis ar gyfer Gŵyl Sundance
Mae'r animeiddwyr Cymreig, Dan Gray a Tom Brown, graddedigion diweddar o Academi Sgrin Cymru Skillset (Ysgol Ffilm Ryngwladol Cymru), wedi derbyn yr alwad – yr alwad mae pob cyfarwyddwr yn gobeithio'i derbyn: yr alwad ffôn o Utah gan Robert Redford a Gŵyl Sundance.
Trefnir Gŵyl Ffilm Sundance gan Sefydliad Sundance, gafodd ei sefydlu 25 mlynedd yn ôl gan Robert Redford. Mae'r ŵyl, sydd yn adnabyddus am roi hwb i yrfaoedd gwneuthurwyr ffilm annibynnol, yn cael ei hystyried yn un o'r gwyliau pennaf ar gyfer talent newydd y byd ffilm annibynnol – yn America ac yn rhyngwladol.
Cafodd y ffilm t.o.m. ei chreu gan Dan a Tom ar gyfer eu cyrsiau gradd, ac fe'i dewiswyd gan Sundance yn un o 71 o ffilmiau byrion, o blith 4445 o geisiadau a dderbyniwyd. Bydd y ffilm – un o ddim ond pedwar gwaith wedi'i animeiddio – yn cystadlu am y wobr am ffilm fer, fydd yn cael ei chyflwyno i nodi rhagoriaeth a chyrhaeddiad.
"Mae gofyn am arbenigedd i wneud ffilm fer – boed y ffilm honno'n waith dramatig, yn animeiddio neu yn enghraifft arall o'r genre yma sydd yn aml yn cael ei ddiystyru,” meddai John Cooper, Cyfarwyddwr Rhaglennu Gŵyl Ffilm Sundance. "Yn Sundance, r'yn ni'n gweithio'n galed i geisio dod o hyd nid yn unig i'r ffilmiau byrion gorau ond hefyd i'r ffyrdd gorau o roi'r sylw dyledus iddyn nhw. R'yn ni'n gwneud hyn trwy drefnu dangosiadau yn ystod 10 diwrnod yr ŵyl yn Park City ac hefyd ar we-fan yr ŵyl, lle caiff ffilmiau eu gwe-ddarlledu yn rhad ac am ddim. Mae hynny'n creu cynulleidfa fyd-eang ar gyfer y gweithiau rhyfeddol hyn.”
Mae ffilmiau byrion wastad wedi bod yn rhan o raglen yr Ŵyl, ac ar gael i bob un o'r mynychwyr. Mae'r rhestr o gyfarwyddwyr sydd wedi dangos ffilmiau byrion yn Sundance yn cynnwys enwau mawrion fel Todd Haynes, Spike Jonze, Paul Thomas Anderson, Wes Anderson, Gus Van Sant, Trey Parker a Matt Stone.
Cafodd t.o.m…the journey of a young boy… ei chreu gan Dan a Tom yn garej rhieni Dan, yn rhan o brosiect graddio'r ddau. Dechreuwyd y broses gynhyrchu ym mis Ionawr ac fe orffennwyd y gwaith ym mis Mai. Gweithiodd y ddau am 17 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Yn gynhyrchiad digidol, costiodd y ffilm 3-munud £3000 i'w chwblhau – ac mae'r gost honno'n cael ei had-dalu nawr wrth i'r ddau animeiddiwr ifanc ennill clod rhyngwladol.
Enillodd t.o.m wobr y Ffilm Orau gan Fyfyrwyr yng Ngŵyl Ffilm Norwich ac yna ennill yr enwebiad Prydeinig ar gyfer cystadleuaeth nodedig Cartoon D’or Ewrop, yng Ngŵyl Encounters, Bryste. Sicrhaodd y gwyliau hyn bod y ffilm yn dod i sylw cynulleidfaoedd eang.
Ac mae'r enwebiad ar gyfer Gŵyl Sundance nawr yn siŵr o greu enw da i'r bechgyn ar lefel ryngwladol.
“Mae Sundance yn freuddwyd – o'r blaen fydden ni ddim ond yn jocian am ddangos ein ffilm yno,” meddai Daniel Gray. “ Ond nawr fe allwn ni ddangos t.o.m i bobl a allai gael dylanwad sylweddol ar ein gyrfaoedd ni.”
Fe fydd Dan, sydd yn hanu o Gasnewydd (Caerllion) yn wreiddiol – ac sydd yn dal i fyw yno – a Tom, o Berkshire yn wreiddiol ond wedi setlo erbyn hyn yng Nghasnewydd, yn mynychu Gŵyl Sundance gyda chefnogaeth gan y Cyngor Prydeinig ac Academi Sgrin Cymru Skillset.
“Mae'r Academi Sgrin wedi ymrwymo i roi pob cefnogaeth posib i'n myfyrwyr wrth iddyn nhw astudio ac wrth iddyn nhw geisio sefydlu gyrfaoedd iddyn nhw'u hunain yn y diwydiant ffilm. Mae'r newyddion yma'n ffantastig i Tom a Dan – mae'n ddechrau gwych, cyffrous iawn, i'w gyrfaoedd nhw,” meddai Hannah Raybould, Rheolwr Prosiect Academi Sgrin Cymru. “Mae ennill enwebiad i Gymru o blith 4445 o geisiadau o bedwar ban byd yn bownd o olygu bod pobl yn edrych ar ein cymuned ffilm ni, a chymryd sylw o'r cyfoeth o dalent sydd i'w weld ymysg ein graddedigion.”
Mae Tom a Dan yn gweithio ar hyn o bryd ar sting i Ffresh - Gŵyl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru 2007, ac maen nhw hefyd yn gweithio ar gyfres o syniadau ar gyfer ffilm nodwedd yn ogystal ag ar brosiectau llaw-rydd.
“Roedden ni eisiau creu ffilm a fyddai'n hoelio sylw'r gynulleidfa. Mae cael teithio i ŵyl Sundance gyda t.o.m. yn gyfle anhygoel – y math o gyfle a allai fod yn unigryw, unwaith-yn-ystod-eich-bywyd, felly fe fyddwn ni'n gwneud y mwyaf o'r trip ac yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i rwydweithio yn ystod yr ŵyl.”
Mae Gŵyl Sundance yn digwydd rhwng Ionawr 18fed – 28ain yn Park City, Utah.
http://festival.sundance.org/2007