Skillset Screen Academy Wales


Skillset Screen Academy Wales


Skillset Screen Academy Wales

Gwasanaeth Ôl-Raddio a Profiad Gwaith

Nora Ostler, Cydlynydd Lleoliadau a Gwasanaeth Ôl-Raddio

Myfyrwyr â diddordeb mewn ymgesio, cliciwch yma.
Cyflogwyr yn chwilio am hyfforddai, cliciwch yma.

Mae gwasanaeth lleoliadau yr Academi wedi cael ei ddatblygu gan CYFLE.  Mae ein cyd-lynydd lleoliadau gwaith yn cynnig cefnogaeth i raddedigion ac ôl-raddedigion yn y cyfnod anodd rhwng gorffen eu hastudiaethau a’u dyfodiad i’r diwydiant ffilm.  Nod y cydlynydd yw i:

Bydd y gwasanaeth lleoliadau gwaith hefyd yn rhoi gwybod i fyfyrwyr am gyfleoedd gwaith a digwyddiadau perthnasol ar ôl iddynt raddio ac yn tracio eu cynnydd wrth iddynt wneud amryw o swyddi o fewn y diwydiant.

Hyd yn hyn, mae myfyrwyr yr Academi wedi gweithio ar ystod o gynhyrchiadau o ffilmiau byrion i ddramau nodwedd fel hyfforddai yn y dyletswyddau canlynol:

Mae llawer o’r myfyrwyr sydd wedi cymeryd rhan mewn profiadau gwath cyd-lynnol yn ddiweddarach wedi cael eu dewis i weithio ar ffilmiau nodwedd a dramau teledu eraill.

Mae’r Academi yn cydweithio yn agos gyda Skillset a Go Wales er mwyn annog cwmnïau cynhyrchu cynhyrchu i rhoi cyfleon i hyfforddeion cyflogedig gael blas ar leoliadau profiad gwaith o hyd at bedwar mis ar draws pob maes cynhyrchu ffilm.  Mae’r cydlynydd lleoliadau gwaith yn cydweithio gyda chwmnïau cynhyrchu mwyaf blaengar Cymru i sicrhau cynllun lleoliadau perthnasol o’r radd uchaf ar gyfer graddedigion yr Academi.

Basdata hyfforddi Cymraeg

Mae’r Academi yn cydweithio’n agos gyda’r Hub Diwydiannau Creadigol, Asiantaeth Ffilm Cymru a Chronfa ED Creadigol Cymru I rheoli basdata rhyngddynt o gyfleon hyfforddi ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.  Bydd y cydlafur yn golygu fod myfyrwyr yr Academi ar gael i’w recriwtio fel hyfforddeion ar ffilmiau nodwedd wedi eu cefnogi gan y Loteri Genedlaethol a’r Cronfa ED, yn ogystal â mewnlifiad cynhyrchiadau wedi eu cefnogi gan Comisiwn Sgrin Cymru.

Midwinter Movies

Yn 2006 bydd yr Academi yn ymuno unwaith eto gyda Skillset a Drama ITV Cymru i gyd-lynnu cynllun Midwinter Movies.  Bydd y cynllun yn cynhyrchu tri ffilm i ’w dangos ar ITV Cymru.  Yn sgil hyn daw cyfle i ddeunaw o’n myfyrwyr weithio fel rhan o’r criw ar y ffilmiau, gyda phrofiad cyn-gynhyrchu a hyffordiant a chynghori agos ar set gan benaethiaid adran profiadol.